Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

8 Gorffennaf 2014

 

Yn bresennol

 

Ann Jones (Cadeirydd)

Donna Cushing (Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y Cofnodion)

Katie Chappelle (Ysgrifennydd)

 

Cynrychiolwyr / rhanddeiliaid

 

Michelle Fowler-Powe

Norman Moore

Meryl Roberts

Jayne Dulson

Nigel Williams

Jacqui Bond

Richard Williams

Paul Redfern

 

Aelodau’r Cynulliad

 

Mark Isherwood

 

Cymorth cyfathrebu

 

Rachel Williams (Dehonglydd)

Julie Doyle (Dehonglydd)

Grace Garnett (Gwefuslefarydd)

Hilary Maclean (palanteipydd)

 

1.         Croeso ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a rhoddodd ei hymddiheuriadau am ei habsenoldeb yn y cyfarfod diwethaf oherwydd ei hapwyntiad meddygol.  Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i'r aelodau am ei hail-ethol.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Barbara Rees, Jonathan Arthur, Olivia Retter, Jim Edwards, Dan Sumners a Ross Evans.

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 6 Mai 2014.

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

2.      Camau a oedd i’w cymryd ers y cyfarfod diwethaf

 

Mae’r cyfrifon blynyddol wedi’u cyflwyno i’w gwerthuso, ond yn unol â chais y Llywydd, caiff hyn ei wneud ar y ffurflen ofynnol.  Nid oes unrhyw dreuliau ffurfiol gan fod pob plaid yn cymryd cyfrifoldeb dros luniaeth ac mae’r cymorth cyfathrebu yn cael ei ddarparu o dan gydraddoldeb.

-1-

Hysbysodd Michelle Fowler yr aelodau ei bod wedi cyfarfod ag Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu ar gyfer De Cymru, i drafod y rhif di-argyfwng, 101.   Nododd ei fod yn ymwybodol o’r materion ac y byddai’n edrych ar wahanol ffyrdd o anfon neges destun at y rhif di-argyfwng.  Roedd y Cadeirydd hefyd wedi ymweld ag Ystafell Reoli Gogledd Cymru yn ddiweddar, ac maent hefyd yn edrych ar y mater hwn.

 

 

3.      Gwaith yn y dyfodol

 

          Hysbyswyd yr aelodau y bydd Mr Moore yn ymddeol ym mis Medi ac mai’r cyfarfod nesaf fydd ei olaf.

 

          Gwnaeth aelodau nifer o awgrymiadau i’w trafod ar gyfer gwaith yn y dyfodol, gan gynnwys:-

 

1.    Mynediad i deledu yng Nghymru

2.    Gwirfoddoli ar gyfer pobl â namau ar y clyw a heriau

3.    Llwybrau ar gyfer darllen gwefusau

4.    Synhwyraidd - profiadau pobl fyddar a dall o dai yng Nghymru – offer cynorthwyol.

 

Gofynnodd Jane Dulson am gymorth a lobïo aelodau am yr eitemau canlynol:-

 

1.    Iechyd Meddwl – Plant ac Oedolion

2.    Acwstig mewn Ysgolion

3.    Safonau Awdiolegol – Pediatreg a phlant

 

Nododd aelodau y byddant yn trafod teledu digidol yn y cyfarfod cyntaf ym mis Medi.  Dywedodd Norman Moore wrth aelodau ei fod wrthi’n gweithio gyda Deluxe Media a Red Bee i fonitro isdeitlau byw.  Nododd Richard Jones y bydd yn trafod y mater hwn gyda Norman Moore cyn y cyfarfod ym mis Medi.

 

Nododd Richard Williams fod Jonathan Arthur wedi awgrymu bod y grŵp yn cael sesiwn yn edrych ar ofal iechyd doeth a goblygiadau ar gyfer awdioleg.  Byddai hyn yn cyd-fynd ag awgrym Jane Dulson ar Safonau Awdiolegol.  Cytunodd Jane Dulson â’r awgrym.

 

 

4.        Unrhyw fater arall

 

Amseroedd aros ail-asesu ar gyfer cymorth clyw– Ymddangosodd erthygl ddiweddar yn y South Wales Echo ynghylch yr uchod - trafododd yr aelodau hyn yn fanwl a daeth i’r casgliad y byddai’r grŵp yn cysylltu â’r Gweinidog Iechyd i ganfod yr ystadegau ar yr amseroedd aros i gynnwys ffigurau ailasesu ac amseroedd aros yn gysylltiedig ag oedran.

 

Trafododd yr aelodau ymhellach faterion yn ymwneud ag unigolion yn colli eu cymhorthion clyw a’r goblygiadau o ran cost iddynt os bydd hyn yn digwydd.

 

 

 

-2-

 

Diweddariad – Tinitws; gwasanaethau i gleifion sy’n ddall a byddar – mae Jonathan Arthur a Ross Davies wrthi’n mireinio’r ddogfen yn ymwneud â’r mater hwn, ond maent wedi ysgrifennu at Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn aros am ymateb.

 

Lansio prosiect Ymgysylltu Synhwyraidd - Nod y prosiect ymgysylltu synhwyraidd, fel y soniwyd yn flaenorol, yw edrych ar faterion yn ymwneud â thai, offer cynorthwyol a gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru.  Bydd hyn yn cyd-fynd â gwaith gofal iechyd hygyrch a datblygu canllawiau BDAs.  Yn ogystal, bydd y prosiect yn edrych ar wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru drwy lygaid pobl sy’n edrych ar y gwasanaethau hynny.  Syniad y prosiect yw y bydd pobl yn rhannu’r straeon a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno gydag argymhellion ar sut i wella gwasanaethau ochr yn ochr â gwefan i gasglu straeon ac arfer gorau ar gyfer gwasanaethau i’w defnyddio yn y dyfodol.  Gofynnodd Richard Williams a oedd unrhyw aelodau yn gwybod am unrhyw un oedd am gymryd rhan gyda’r prosiect hwnnw, gan ei fod yn seiliedig ar bobl yn rhannu eu straeon, ac os felly i gysylltu â Katie Chappelle yn AOHL.  Mae angen bobl o bob rhan o Gymru i rannu eu straeon er mwyn gallu gwneud gwelliannau.

 

BSL yn gwella Mynediad i Grwpiau Ymchwil Therapïau Seicolegol – Dywedodd Jacqui Bond wrth y rhai oedd yn bresennol nad yw Gwella mynediad i therapïau seicolegol ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, dim ond yn Lloegr.  Mae  Prifysgol Manceinion wedi cael grant i ymchwilio a chynnal treial dan reolaeth a’r syniad yw y byddent yn hoffi cael pobl drwy lwybr, felly, os oes angen iddynt gael therapi seicolegol, byddant yn cael therapydd byddar neu therapydd clywed gyda dehonglydd.  Nid yw’r Adran Iechyd yn awyddus bod yn cael ei wneud unrhyw ffordd arall a’r syniad, yn y bôn, yw canfod p’un a yw’r canlyniadau yn well i bobl fyddar gyda dehonglydd neu gyda therapydd byddar wedi’i hyfforddi.  Mae’n dreial ymchwil dwy flynedd ac mae angen iddynt gael digon o gyfranogwyr. 

 

Bu'r Aelodau'n trafod y mater yn fanwl a chan nad yw’r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw unigolyn sy’n byw yng Nghymru, daethant i’r casgliad i’w drafod gyda’r Gweinidog Iechyd ac i gadw llygad ar pryd ac os bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gyflwyno fel bod Cymru yn cael ei gynnwys.

 

Mynediad at Waith – Bydd y mater hwn yn cael ei drafod yn nes ymlaen pan fydd Jim Edwards yn gallu bod yn bresennol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.

 

Hygyrch gwefan y Cynulliad / Senedd TV – dywedodd Mark Isherwood wrth aelodau ei fod wedi cael cyfres o negeseuon e-bost gan grŵp sy’n galw eu hunain yn DARG (Deaf Action Research Group) yn mynegi eu pryderon o ran nad yw Senedd TV yn bodloni’r gofynion o ran arwyddion na hygyrchedd i bobl fyddar a ph’un a ddylem godi hyn gyda’r Comisiwn?  Yn ogystal, ar fater cysylltiedig, nodwyd problemau gyda gwefan y Cynulliad gan nodi bod y derminoleg ynghylch nam ar y synhwyrau yn anghywir.

 

 

 

 

 

-3-

Cafodd aelodau wybod bod Cyngor Cymru i Bobl Fyddar wrthi’n gweithio gyda S4C a Llywodraeth Cymru ynghylch hygyrchedd i ailosod Cwestiynau i’r Prif Weinidog.  Yn dilyn darlledu ar S4C, bydd ar gael ar YouTube gydag eglurhad yn nodi’r rhesymau dros ddefnyddio dehonglwyr clyw yn hytrach na dehonglwyr byddar, oherwydd cyfyngiadau amser.  Bydd eglurhad yn cael ei anfon at bobl fyddar ledled Cymru ynghylch y mater hwn maes o law.

 

Trafododd yr aelodau bod DARG wedi ysgrifennu at y pwyllgor deisebau ynghylch y mater hwn a daeth i’r casgliad y gall unrhyw ymholiadau gan y pwyllgor gael eu cyfeirio at y grŵp defnyddwyr proffesiynol a’r Uned Cydraddoldeb yn Llywodraeth Cymru i ddilyn i fyny.  Bydd y Cadeirydd yn cysylltu â’r Llywydd ynghylch y mater.

 

Y Pwyllgor Deisebau – Acwsteg Adeiladau Ysgol – nododd Jayne Dulson ei rhwystredigaeth gyda’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y mater hwn gan eu bod wedi cyflwyno’r ddeiseb flwyddyn yn ôl ac yn dal i aros i’r Cyfnod Terfynol gael ei drafod yn y pwyllgor.  Trafododd yr aelodau y mater hwn a dywedodd y Cadeirydd y bydd yn tynnu sylw at hyn gydag aelodau o’r Pwyllgor Deisebau.

 

Yn ogystal, rhoddodd Jayne Dulson wybod i’r rhai oedd yn bresennol y bydd y Papur Gwyn ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod i gasgliad ar 25 Gorffennaf.  Dylai’r ymgynghoriad fod ar gael i’w adolygu rywbryd ar ôl y dyddiad hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.  Dywedodd Jayne Dulson y bydd NDCS yn cymryd rhan yn y Bil a’r Cod ymarfer mewn perthynas â’r Bil.

 

5..     Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

          Cynhelir cyfarfod nesaf APGDI yng Nghaerdydd ar 23 Medi 2014.

 

Dymunodd y Cadeirydd haf da i bawb.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

-4-